National Trust
Aberdaron · Posted 22 Sep 2026 · 58 applicants
Ceidwad
Fel Ceidwad, byddwch yn cyfrannu at wella cynefinoedd a mynediad i gefn gwlad ac arfordir Pen Llyn. Gan weithio yn rhai o lefydd a gofodau mwyaf trawiadol y wlad, boed law neu hindda, bydd eich cariad tuag at yr awyr agored yn ysbrydoli eraill wrth i chi wneud eich gorau i sicrhau bod tirweddau’n cael eu cyflwyno’n hyfryd ac ecosystemau’n ffynnu.
Cyflog: £27,612 y flwyddyn
Hyd y Contract: Parhaol
Oriau Gwaith: Byddwch yn gweithio 37.5 awr yr wythnos, gan gynnwys rhai gyda’r nosau, penwythnosau a Gwyliau Banc.
The ability to communicate fluently in Welsh is essential for this role. The English version of this advert can be found in the attachments.
What it's like to work hereO ddydd i ddydd byddwch yn rhan o dîm Ceidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gan ddarparu gwaith cadwraeth a chynnal a chadw ar draws yr ystad, o ffensio, atgyweirio cloddiau, adeiladu waliau sych i blannu coed a rheoli rhywogaethau ymledol. Er mai Cwrt (Aberdaron) fydd y man sefydlog, mae’r gwaith wedi’i wasgaru ar draws safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mhorthdinllaen, Ynys Môn, Glan Faenol a Phen Llyn. Byddwch yn gweithio’n agos gyda thenantiaid ffermydd, gwirfoddolwyr a’r gymuned leol, gyda’r mwyafrif ohonynt yn siaradwyr Cymraeg, felly mae gallu cyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Does dim dwywaith y bydd yr ardal y byddwch yn gweithio ynddi yn drawiadol iawn, ond gall amgylchiadau ar yr arfordir fod yn gyfnewidiol. Byddwch yn treulio cryn dipyn o amser yn yr awyr agored gydol y flwyddyn, felly mae’n rhaid i chi fod yn barod am bob math o dywydd, meddu ar brofiad da o weithio yn yr awyr agored, a bod yn wydn ac yn barod i addasu eich cynlluniau er mwyn gweithio gyda’r tywydd ar y diwrnod.
Rydym yn falch o’r rhan mae’r Gymraeg yn ei chwarae yn y llefydd a’r cymunedau rydym yn gofalu amdanynt ar hyd a lled Cymru. P’un a ydych chi’n siaradwr Cymraeg rhugl, yn ddysgwr, neu’n hollol newydd i’r iaith, byddwn yn eich cefnogi i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder sydd ei angen ar gyfer eich rôl ac er mwyn ymgysylltu gydag iaith a diwylliant Cymru fel rhan o weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
What you'll be doingWedi’ch arwain gan y Rheolwr Cefn Gwlad, byddwch yn blaenoriaethu a rheoli rhaglen waith effeithiol a hyblyg, gan gymryd cyfrifoldeb dros gyflawni prosiectau bach a chanolig. Byddwch yn cefnogi eich cyd-geidwaid a chydweithwyr yn bennaf ar draws Ynys Môn a Phen Llyn wrth ddeall gwaith cadwraeth a mynediad, ond ar adegau byddwch yn cefnogi cyd-geidwaid ar safleoedd eraill ar draws gogledd Cymru.
Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn cynnal safonau ardderchog o ran edrychiad eiddo a’r gwaith cynnal a chadw ynddo, gan gyflawni amcanion cadwraeth yn llwyddiannus, a byddwch yn meithrin ac yn cynnal perthnasoedd proffesiynol cryf gyda phartneriaid allanol, cydweithwyr, contractwyr, tenantiaid a rheolwyr tir cyfagos.
Byddwch yn cyfathrebu eich gwaith cadwraeth i ystod eang o gynulleidfaoedd, rhai newydd, a rhai sy’n bodoli eisoes, a hynny drwy ddigwyddiadau, teithiau cerdded tywys a gwaith ymgysylltu gyda chymunedau lleol.
Who we're looking forByddem wrth ein bodd yn clywed gennych os:
Yr?arwyddair?sydd?wrth?wraidd?yr?Ymddiriedolaeth?Genedlaethol?yw?'I?bawb,am?byth'.?Rydym?yn?gweithio'n?galed?i?greu?diwylliant?cynhwysol,?lle?mae?pawb?yn?teimlo?eu?bod?yn?perthyn?iddo.?Mae'n?bwysig?bod?ein?pobl?yn?adlewyrchu?ac?yn?cynrychioli?amrywiaeth?y?cymunedau?a'r?cynulleidfaoedd?yr?ydym?yn?eu?gwasanaethu.?Rydym?yn?croesawu?ac?yn?gwerthfawrogi?gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb deimlo’n gartrefol yn ein timau hefyd.
Cliciwch?yma?i?ddysgu?mwy?am y buddion rydym yn eu cynnig I'ch cefnogi chi.
South Wales Fire and Rescue Service · Abercarn · £15.06 per hour · Contract
Aspire People Limited · Newport · £120.00 - £150.00 per day · Temporary
Qualifications Wales · Newport · £292.00 per day · Contract
CV-Library · Duffryn, Newport · £120 - £150/day · Full-Time
CV-Library · Butetown Community · £120 - £150/day · Full-Time