Newinvisible AI for interviewsTry Cue
Featured

Ranger Welsh Essential

National Trust

Nant Ffrancon · Posted 19 Oct 2026 · 6 applicants

£27,612 per annum
Permanent
Apply now
Summary

Ceidwad

Rydym yn chwilio am geidwad i helpu i ofalu am dirwedd fynyddig eang y Carneddau a’r Glyderau, sy’n ymestyn dros 21,000 erw. Yn y swydd hon, byddwch yn eiriolwr dros gadwraeth natur a’r awyr agored, gan chwarae rhan hanfodol yn y broses o sicrhau bod y dirwedd drawiadol hon yn aros mewn cyflwr da ar gyfer bywyd gwyllt a phobl, nawr ac yn y dyfodol.

Cyflog: £27,612 y flwyddyn

Hyd y Contract: Parhaol 

Patrwm Gweithio: Byddwch yn gweithio 37.5 awr yr wythnos. Wythnos waith arferol yw dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 4am, ond efallai y gofynnwn i chi weithio ar benwythnosau, gwyliau banc a gyda’r nos yn achlysurol.

The ability to communicate in Welsh is essential for this role, with a minimum of Level 4 in speaking and listening, and Level 2 in reading and writing. Please assess your level against the attached Welsh Language Competency Matrix. 

The English version of this advert is available in the attachments. 

What it's like to work here

O ddydd i ddydd, byddwch yn rhan o dîm Ceidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sydd wedi’i leoli yn Nant Ffrancon ger Bethesda. Mae’r ardal y byddwch yn gweithio ynddi mor brydferth, ond gall y tywydd yn y mynyddoedd fod yn arw. Byddwch yn treulio cryn dipyn o amser yn yr awyr agored drwy gydol y flwyddyn, felly rhaid i chi fod yn barod am bob math o dywydd, ac yn barod i addasu eich cynlluniau i gyd-fynd â thywydd y diwrnod.

Byddwch yn gweithio’n agos gyda thenantiaid ffermydd, gwirfoddolwyr a’r gymuned leol; mae’r rhan fwyaf ohonynt yn siarad Cymraeg, felly mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym yn falch o’r rhan mae’r Gymraeg yn ei chwarae yn y llefydd a’r cymunedau rydym yn gofalu amdanynt ar hyd a lled Cymru. Rydym yn cydnabod bod taith iaith pawb yn wahanol, felly byddwn y eich cefnogi i barhau i ddatblygu eich sgiliau a’ch hyder ac i ddefnyddio’r Gymraeg fel rhan o’ch gwaith bob dydd yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

What you'll be doing

Fel Ceidwad, byddwch yn helpu i ddiogelu a gofalu am gynefinoedd, bywyd gwyllt, adeiladau a pheiriannau. Byddwch yn sicrhau bod y gwaith cadwraeth a’r profiadau awyr agored ar y tir sydd dan eich gofal o'r ansawdd uchaf.

Byddwch yn canolbwyntio’n bennaf ar gyflawni tasgau ymarferol i gynnal a chadw’r ystad ac adfer natur ar draws y Carneddau a’r Glyderau. O godi ffensys a waliau cerrig sych i osod/trwsio giatiau a chamfeydd, ac o weithredu a chynnal peiriannau fel tractorau a llif gadwyni i blannu coed, ni fydd dau ddiwrnod fel ei gilydd. Byddwch hefyd yn arolygu offer cefn gwlad, gan gynnwys pontydd, camfeydd a giatiau, gan helpu i nodi lle mae angen gwaith cynnal a chadw neu waith trwsio.

Yn achlysurol, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â grwpiau addysgol a gwirfoddol i gyflawni amrywiaeth o dasgau cadwraeth, fel rheoli eithin a rhedyn neu blannu coed. Byddwch yn trosglwyddo eich gwybodaeth a’ch brwdfrydedd i annog eraill i fwynhau’r ardal hon gymaint ag yr ydych chi, a phryd bynnag a lle bynnag y byddwch yn dod ar draws pobl, byddwch yn cymryd yr amser i sgwrsio â nhw ac ateb eu cwestiynau, yn hytrach na rhuthro i ffwrdd at y dasg nesaf.

Mae’r proffil llawn ar gyfer y swydd hon ar gael yn y ddogfen sydd ynghlwm. Nid oes angen i chi feddu ar yr holl wybodaeth, sgiliau a phrofiad sydd wedi’u rhestru yn y proffil swydd; rhoi darlun llawn o’r hyn sy’n bosibl yn y swydd hon y mae’r rhestr honno.?

Who we're looking for

Byddem wrth ein bodd petaech yn cysylltu os ydych yn:

  • brofiadol yn gweithio yn yr awyr agored i reoli tir a mynediad, cefnogi cadwraeth, a diogelu a gwella tirweddau a chynefinoedd
  • profiadol yn gyrru tractorau ar dir amrywiol a gwneud gwaith cynnal a chadw arferol
  • gallu defnyddio peirianwaith ac offer, gyda thystysgrifau perthnasol
  • hapus i siarad â phob math o bobl am y gwaith rydych chi’n ei wneud a pham ei fod yn bwysig
  • gweithgar ac yn awyddus i ddysgu
  • gallu gweithio’n ddiogel, gan ddefnyddio asesiadau risg a dilyn canllawiau
  • gyrrwr gyda thrwydded yrru lawn y DU
The package

Yr arwyddair sydd wrth wraidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw 'I bawb, am byth'. Rydym yn gweithio'n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae'n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth y cymunedau a'r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb deimlo'n gartrefol yn ein timau hefyd. 

  • Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol 
  • Mynediad am ddim i eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i chi, gwestai a'ch plant (dan 18 oed) 
  • Cynllun benthyciad blaendal rhent 
  • Benthyciad tocyn tymor 
  • Gostyngiadau buddion y gweithle, h.y. aelodaeth gampfa, codau gostyngiad siopa, gostyngiadau ar gyfer y sinema 
  • Lwfans gwyliau hyd at 32 diwrnod mewn perthynas â hyd y gwasanaeth, yn ogystal â chynllun prynu gwyliau, yn amodol ar fodloni meini prawf gofynnol. 
  • Oriau gweithio hyblyg lle bynnag y bo'n bosibl 
  • Rhaglen cynorthwyo cyflogai 
  • Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau   

Cliciwch yma i ddysgu mwy am y buddion rydym yn eu cynnig i’ch cefnogi chi. 

Apply now