Newinvisible AI for interviewsTry Cue
Featured

WDS Firefighter Transfer Process / WDS Diffoddwr Tan Proses Trosglwyddo

South Wales Fire and Rescue Service

Closing date: 27th May 2026 at 12:00, midday

South Wales Fire and Rescue Service (SWFRS) is looking for professional, highly motivated individuals with a drive for excellence, people who want to broaden their knowledge and skills and join our Service as a Wholetime Firefighter. This opportunity is open to all competent firefighters currently employed by a UK Fire and Rescue Service.

We are committed to developing and supporting people to fulfil their potential, and we value diversity, encouraging applications from all backgrounds and underrepresented groups. The requirements of the role mean you will be expected to demonstrate a commitment to the NFCC Core Code of Ethics and our Vision, Mission and Values, and to encourage the same standards in those you work with and support.

A career in SWFRS is wide and varied and offers excellent development opportunities. By joining us, you can expect:

  • Excellent career development pathway
  • Pension scheme with employer contributions
  • Employee discount scheme
  • Staff network groups and wellbeing support

If you are seeking a change and want to play a crucial role in helping to make the communities of South Wales safer, we want to hear from you.

Crew managers and above wishing to be considered need to be aware that they will be transferring in at Firefighter level only.

Please note: When applying, candidates acknowledge and accept that the position of WDS Firefighter may be offered at any station/location within South Wales Fire and Rescue Service.

  • Grade: Competent WDS Firefighter
  • Salary: £38, 881
  • Hours of Work: WDS Shift Pattern
  • Closing Date: 27th May at 12:00, midday

-----------------

Ymgeisiwch erbyn: 27ain Mai 2026 am 12:00 canol dydd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn chwilio am unigolion proffesiynol, uchel eu cymhelliant â brwdfrydedd am ragoriaeth, pobl sydd eisiau ehangu eu gwybodaeth a'u sgiliau ac ymuno â'n Gwasanaeth fel Diffoddwr Tân Dyletswydd Gyflawn. Mae'r cyfle hwn ar agor i bob diffoddwr tân cymwys sy'n cael ei gyflogi ar hyn o bryd gan Wasanaeth Tân ac Achub yn y DU.

Anogir gweithwyr System Dyletswydd Ar Alwad (SDdAA) â chontract SDdG mewn Gwasanaeth Tân ac Achub arall i wneud cais drwy'r broses drosglwyddo hon hefyd.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu a chefnogi pobl i gyflawni eu potensial, ac rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth, gan annog ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae gofynion y rôl yn golygu y bydd disgwyl i chi ddangos ymrwymiad i God Moeseg Craidd CCPT a'n Gweledigaeth, Cenhadaeth a Gwerthoedd, ac i annog yr un safonau yn y rhai rydych chi'n gweithio gyda nhw ac yn eu cefnogi.

Mae gyrfa gyda GTADC yn eang ac amrywiol ac yn cynnig cyfleoedd datblygu rhagorol. Drwy ymuno â ni, gallwch ddisgwyl:

  • Llwybr datblygu gyrfa ragorol
  • Cynllun pensiwn gyda chyfraniadau cyflogwyr
  • Cynllun disgownt i weithwyr
  • Grwpiau rhwydwaith staff a chefnogaeth lles

Os ydych chi'n chwilio am newid ac eisiau chwarae rhan hanfodol wrth helpu i wneud cymunedau De Cymru'n fwy diogel, rydyn ni eisiau clywed gennych chi.

Dylai rheolwyr criw a rheolwyr uwch sy'n dymuno cael eu hystyried fod yn ymwybodol y byddant yn trosglwyddo i fod ar lefel Diffoddwr Tân yn unig.

Sylwch: Wrth wneud cais, mae ymgeiswyr yn cydnabod ac yn derbyn y gellir cynnig swydd Diffoddwr Tân SDdG mewn unrhyw orsaf/lleoliad o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

  • Gradd: Diffoddwr Tân Cymwys
  • Cyflog: £38, 881
  • Oriau Gwaith: Patrwm Shifft WDS
  • Dyddiad Cau: 27ain Mai 2026 am 12:00 canol dydd