Newinvisible AI for interviewsTry Cue
Featured

Deputy Headteacher

The Guardian

Ydych chi’n arweinydd uchelgeisiol sydd eisiau dylanwadu ar addysg disgyblion? Ydych chi’n awyddus i weithio mewn ysgol brysur a chyffrous sydd yn anelu at y safonau uchaf posibl? Ydych chi’n barod i ymuno gyda chymuned agos a chefnogol Ysgol Pencae?

Dymuna gorff Llywodraethol Ysgol Pencae benodi dirprwy bennaeth ysbrydoledig sydd am gydweithio gyda’r Pennaeth a thîm o stwff brwdfrydig i adeiladu ar y sylfeini cadarn sydd eisoes mewn lle yn ysgol Pencae. Mae’n gyfnod cyffrous ym myd addysg ac rydym yn dymuno i’r ymgeisydd llwyddiannus arwain yr ysgol gyda chyffro er mwyn iddi arloesi yn ei haddysgeg.

Mae Ysgol Pencae yn ysgol Gymraeg lwyddiannus iawn ym maestref Llandaf yng Nghaerdydd. Mae’r disgyblion yn cyflawni safonau cyson dda, y staff yn hynod ymroddedig ynghyd â Chorff Llywodraethol a rhieni sy’n cefnogi pob agwedd o fywyd yr ysgol.

Gwahoddir ceisiadau gan athrawon cymwys a brwdfrydig am swydd dirprwy bennaeth yr ysgol lwyddiannus hon. Bydd y Dirprwy Bennaeth ymroddedig yn:

? arddel ar weledigaeth gadarn ar gyfer cydarwain yr ysgol

? ymarferydd dosbarth ardderchog gan anelu yn gyson at y safonau uchaf

? Profiad o addysgu ar draws y sector cynradd

? meddu ar wybodaeth drylwyr o Gwricwlwm i Gymru a strategaethau addysgeg cyfredol

? ymrwymo i ddarparu cwricwlwm cyfoethog, arloesol a chreadigol

? yn barod ac yn awyddus i ymchwilio, gweithredu a chymryd risg gan ysbrydoli eraill i ddilyn yr un esiampl

? arddangos llwyddiant blaenorol o ran sgiliau arwain a rheoli effeithiol

? arwain staff gyda blaengareddau addysgol ac yn eu datblygiad proffesiynol

? cynnal a chadw ethos Gymreig a safonau uchel yr ysgol

? arddangos sgiliau rhyngbersonol cadarn er mwyn cydweithio gyda holl randdeiliaid yr ysgol

? cyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg.

O dan Ddeddf Athrawon a Addysg Uwch 1998 a Rheoliadau Athrawon (Cofrestru Gorfodol) Cymru 2000, rhaid i bob athro cymwys, sydd wedi'i gyflogi mewn ysgol a gynhelir, fod wedi'i gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA).

Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.